28

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol 2021/22

 

Y GRŴP TRAWSBLEIDIOL AR GLEFYD SELIAG A DERMATITIS HERPETIFORMIS


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cadeirydd: Rhun ap Iorwerth AS/MS

 

Ysgrifennydd:  Tristan Humphreys


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

31 Ionawr 2023


1

 

 

 

 

 

 

 

 

1.   Aelodaeth y Grŵp a deiliaid swyddi

 

 

Cadeirydd:

Rhun ap Iorwerth AS/MS

 

Ysgrifennydd:

Tristan Humphreys – Pennaeth Eiriolaeth, Coeliac UK

 

Aelodau:

 

Rhun Ap Iorwerth AS/MS, Peredur Owen Griffiths AS/MS, Mark Isherwood AS/MS, Russell George AS/MS, Mike Hedges AS/MS.

 

Tristan Humphreys (Ysgrifennydd/Pennaeth Eiriolaeth, Coeliac UK), Fiona Newsome (Cynghorydd Tystiolaeth a Pholisi, Coeliac UK), Claire Constantinou (Deietegydd Gweithredol Arweiniol, Ysbyty Athrofaol Cymru), Dr Geraint Preest (Practis Meddygol Pencoed), Graham Phillips (Grŵp Seliag Abertawe), Ian Severn (Grŵp Seliag Caerdydd), Simon Scourfield (Arweinydd Rheoli Gweithrediadau, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru), Sian Evans (Dietegydd Paediatreg, Ysbyty Athrofaol Cymru), Dr Jill Swift (Gastroenterolegydd Ymgynghorol, wedi ymddeol), Alison Jones (Deietegydd Arweiniol Clinigol ym maes Cymorth Rhagnodi, Bwrdd Iechyd Hywel Dda), Dr Vivek Goel (Ysbyty Spire Caerdydd), Dr Ieuan Davies (Gastroenterolegydd Pediatrig Ymgynghorol, Ysbyty Athrofaol Cymru), Dr Richard Cousins (Imiwnolegydd Ymgynghorol, Ysbyty Athrofaol Cymru), Gwawr James (Deietegydd Cenedlaethol ar gyfer Deietau Arbennig mewn Ysgolion, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru), Ellie Wilson (Uwch chwaer nyrsio, Practis Meddygol Pencoed).

 

 

Cyfarfodydd blaenorol y Grŵp ers y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf

 

 

Cyfarfod 1

 

Dyddiad y cyfarfod: 30 Mehefin 2021

Yn bresennol: Rhun ap Iorwerth AS/MS (RaI) – Cadeirydd/Chair; Tristan Humphreys, Coeliac UK (TH) – Ysgrifennydd/Secretary; Peredur Owen Griffiths AS (POG); Mark Isherwood AS (MI); Russell George AS (RG); Heledd Roberts (HR); Dr Ieuan Davies (ID).

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

 

        Croeso – Croesawodd RaI y rhai a oedd yn bresennol i’r cyfarfod, gan ddiolch iddynt am roi o’u hamser. Rhoddodd TH drosolwg o waith y grŵp blaenorol.

 

        Ethol swyddogion: Diolchodd TH i RaI am gynnig cymryd yr awenau fel Cadeirydd y grŵp, a gwahoddodd enwebiadau gan Aelodau (fel y nodir isod). Yn sgil hynny, cafodd y swyddogion a ganlyn eu hethol: Cadeirydd: Rhun ap Iorwerth AS (enwebwyd gan MI, eiliwyd gan POG); Ysgrifennydd: Tristan Humphreys (enwebwyd gan POG, eiliwyd gan MI).


 

 

Adroddiad Blynyddol 2021-22 – Y Grŵp Trawsbleidiol ar Glefyd Seliag a Dermatitis Herpetiformis

[31.01.23]


2

 

 

      Cynlluniau ar gyfer y dyfodol: Cafodd TH ei wahodd gan RaI i nodi blaenoriaethau allweddol y grŵp ar gyfer y misoedd i ddod. Tynnodd TH sylw’r aelodau newydd at yr Adroddiad Etifeddiaeth a luniwyd gan y Grŵp Trawsbleidiol blaenorol, a oedd yn tynnu ynghyd ei waith hyd yma ac yn nodi rhai blaenoriaethau pwysig wrth symud ymlaen. Gellir gweld crynodeb gweithredol o’r adroddiad hwnnw yma. Tynnodd TH sylw at ddau faes penodol o ddiddordeb: Diagnosis a’r broses o ddatblygu llwybr clinigol.

 

        Galwad am waith ymchwil gan Coeliac UK: Tynnodd TH sylw at y ffaith bod Coeliac UK wedi lansio galwad am waith ymchwil, gan wahodd unrhyw aelodau sydd â diddordeb i gysylltu er mwyn cael rhagor o wybodaeth. Mae Coeliac UK yn cynnig grant peilot/prawf cysyniad ar gyfer gwaith ymchwil ym maes clefyd seliag mewn plant a phobl ifanc, a hynny mewn partneriaeth â Chymdeithas Gastroenteroleg, Hepatoleg a Maetheg Bediatrig Prydain (BSPGHAN).

 

        Pwyllgorau’r Senedd a phwysigrwydd cynyddol y Grwpiau Trawsbleidiol:Nododd RG y cynnig bod pwyllgorau'r Senedd yn cwrdd yn llai rheolaidd, a chododd bryderon ynghylch yr effaith y gallai hyn ei chael ar eu gallu i ymdrin yn effeithiol ag ystod o faterion a chraffu arnynt. Gyda hyn mewn golwg, croesawodd RG waith da'r Grŵp Trawsbleidiol hyd yma, gan nodi bod cyfle iddo effeithio ymhellach ar y sefyllfa dan sylw.

 

        Fformat cyfarfodydd - cyfarfodydd ar-lein a dwyieithrwydd: Cynigiodd RaI fod y grŵp yn parhau i gwrdd ar-lein, gan nodi'r hyblygrwydd cynyddol y mae’r trefniant hwn yn ei ganiatáu a'r ffaith ei fod yn ehangu’r cyfleoedd i ymgysylltu ag aelodau yng Ngogledd Cymru. Cytunodd y grŵp yn unfrydol ar hyn. Yn ogystal, eglurodd RaI y byddai'r grŵp yn ceisio gweithio'n gwbl ddwyieithog wrth symud ymlaen.

 

Cyfarfod 2.

 

Dyddiad y cyfarfod: 13 Hydref 2021

Yn bresennol: Rhun ap Iorwerth MS/AS (RaI) -Cadeirydd/Chair, Tristan Humphreys, Coeliac UK (TH) - Ysgrifennydd/Secretary, Heledd Roberts (HR), Dr Ieuan Davies (IHD), Dr Geraint Preest (GPr), Claire Constantinou (CC), Alison Jones (AJ), Dr Richard Cousins (RC), Rebecca Bowen (RB), Ian Severn (IS), Sian Evans (SE).

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

 

        Llythyr at y Gweinidog ynghylch: Gwasanaethau endosgopi: Mae’r Cadeirydd wedi cael ymateb gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i’w lythyr dyddiedig 22 Gorffennaf ynghylch: Gwasanaeth Endosgopi Cymru ac effaith COVID-19. Mae’n cydnabod yr heriau sy’n wynebu pobl â chlefyd seliag yng Nghymru ac yn cyfeirio at y cyllid ychwanegol sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag ôl-groniadau ym maes endosgopi, yn ogystal â’r cymorth a gynigir drwy’r Rhaglen Endosgopi Genedlaethol. Cododd IHD bryderon am y ffaith nad yw’r Rhaglen Endosgopi Genedlaethol yn cynnwys plant. Cydnabu'r Cadeirydd fod hwn yn fater yr oedd IHD wedi'i grybwyll eisoes, a hynny’n briodol. Awgrymodd y dylai'r grŵp gysylltu â’r Gweinidog eto i godi’r mater.

 

        Profion gwaed: Rhannodd TH y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran prinder tiwbiau ar gyfer profion gwaed ar draws y DU. Mae'r sefyllfa hon wedi arwain at heriau sylweddol, gyda meddygon teulu yn cael eu cynghori i resymoli profion. O ganlyniad i hyn, ac yng nghyd-destun pwysau gaeaf hynod ddifrifol, mae sefydliad Coeliac

UK wedi penderfynu gohirio ei ymgyrch arfaethedig ym maes diagnosis plant tan y flwyddyn nesaf.


 

 

 

 

 

Adroddiad Blynyddol 2021-22 – Y Grŵp Trawsbleidiol ar Glefyd Seliag a Dermatitis Herpetiformis

[31.01.23]


3

 

 

        Llwybr Seliag – Rhoddodd TH gyflwyniad byr i'r grŵp ar y broses o ddatblygu llwybr seliag posibl i Gymru, gan ddefnyddio’r adborth a gafwyd gan aelodau’r grŵp ac arfer gorau ym mhob rhan o’r DU. Mae tystiolaeth glir o’r angen sy’n bodoli, y rhwystrau sylweddol o ran cael diagnosis, a’r heriau o ran sicrhau rheolaeth barhaus. Roedd y grŵp yn teimlo’n gryf y gallai llwybr clinigol seliag sicrhau gwelliannau mewn perthynas â thaith y claf, ac roedd hyn yn cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru.

 

        Strategaeth Coeliac UK yn y Gwledydd Datganoledig – Rhannodd TH y wybodaeth ddiweddaraf â’r grŵp ynghylch penderfyniad yr elusen i fabwysiadu strategaeth newydd ar gyfer y cenhedloedd datganoledig. Mae'r strategaeth yn ceisio sicrhau bod yr elusen yn gweithredu mewn ffordd sy'n darparu gwasanaeth teg ar gyfer ei haelodau ledled y DU, gan fabwysiadu dull gweithredu ynghylch cynllunio a chyflawni sydd wir yn canolbwyntio ar y pedair gwlad. Diolchodd TH i'r grŵp am ei waith dros y blynyddoedd diweddar, ac am gyflwyno’r ddadl dros yr effaith gadarnhaol y gall ymgysylltu â'r gwledydd datganoledig ei chael.

 

        Cynllun rhagnodi di-glwten Hywel Dda – Cafwyd diweddariad llafar ynghylch y cynllun gan AJ. Hyd yma, mae 600 o bobl wedi cofrestru ar y cynllun. Mae hynny’n golygu bod llai na hanner y practisau meddygon teulu wedi’u cynnwys, ac mae’r cynllun bellach yn cael ei gyflwyno yng Ngheredigion. Mae hyn yn golygu bod tua 60 y cant o'r rhai sy'n gymwys yn manteisio arno. Un rhwystr y mae’r rhai nad ydynt yn defnyddio’r cerdyn wedi’i godi yw eu hamharodrwydd i gyfrannu tuag at eu presgripsiynau, yn sgil y ffaith bod y cynllun newydd, yn ei hanfod, yn darparu cymhorthdal i wneud iawn am y gwahaniaeth yn y gost yn hytrach na thalu’r gost yn ei gyfanrwydd. Mae AJ a’i chydweithwyr yn bwriadu cwrdd ag Andrew Evans, Prif Fferyllydd Cymru, yn ddiweddarach yn y mis i drafod y camau nesaf. Cynhaliwyd arolwg ymhlith deiliad y cerdyn dan sylw, a dywedodd 96 y cant o'r rhai sy’n ei ddefnyddio fod yn well ganddynt y cerdyn na phresgripsiynau. Mae cod QR bellach ar gael, a gall y cleifion ei ddefnyddio i gael rhagor o wybodaeth. Mae’r costau cychwynnol yn awgrymu bod y cynllun yn rhatach na'r model presgripsiynau a ddefnyddir ar hyn o bryd, a’i fod yn darparu cymorth i fwy o gleifion.

 

.

 

        Labordy yn cael ei gau – Tynnodd RC sylw'r grŵp at y ffaith bod y labordy imiwnoleg yn Ysbyty Tywysog Siarl ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf wedi cael ei gau. Roedd modd rhagweld y sefyllfa hon, ac mae'r penderfyniad hwn yn tynnu sylw at wendid yn y system, sef bod llawer o labordai yn y rhwydwaith yn fach iawn, a gall newidiadau staffio effeithio arnynt yn hawdd.

 

Cyfarfod 3

 

Dyddiad y cyfarfod: 4 Mai 2021

Yn bresennol: Rhun ap Iorwerth - Cadeirydd (RaI); Tristan Humphreys - Ysgrifennydd/Coeliac UK (TH); Siân Evans (SE); Heledd Roberts; Gwawr James (GJ), Dr Jill Swift (JS); Claire Constantinou (CC); Fiona Newsome (FN)

 

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

 

        Arolwg ymhlith dietegwyr: Mae CC wedi cynhyrchu arolwg dienw ac wedi'i rannu â dietegwyr ym mhob bwrdd iechyd. Hyd yn hyn, mae saith ymateb wedi dod i law. Soniodd CC fod amrywiaeth eang o atebion wedi dod i law, a bod fawr ddim cysondeb yn yr atebion o ran yr hyn y mae pob Bwrdd Iechyd yn ei wneud. Dim ond dau o'r saith Bwrdd Iechyd sydd wedi penodi arweinydd clinigol ar gyfer clefyd seliag. Pwysleisiodd CC y ffaith ei bod yn bwysig bod dietegydd arbenigol yn gweld cleifion, gan nodi nad yw hyn o reidrwydd yn bosibl mewn gwasanaethau gofal sylfaenol. Croesawodd CC yr arferion da a welwyd, a phwysleisiodd bwysigrwydd y broses o werthuso gwasanaethau.

 

        Diweddariad llafar gan Ddietegydd Cenedlaethol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Ddietau Arbennig mewn Ysgolion:


 

Adroddiad Blynyddol 2021-22 – Y Grŵp Trawsbleidiol ar Glefyd Seliag a Dermatitis Herpetiformis

[31.01.23]


4

 

 

Wrth gyflwyno GJ, dywedodd RaI ei fod yn croesawu’r cam o gyflwyno prydau ysgol am ddim ledled Cymru. Dywedodd ei fod yn cydnabod bod hwn yn gyfnod cyffrous ond yn gyfnod a fyddai’n dod â nifer o heriau hefyd. Siaradodd GJ am ei rôl fel dietegydd yn gweithio ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn edrych yn benodol ar ddietau arbennig. Siaradodd GJ am yr heriau a oedd yn gysylltiedig â’r ffaith bod y canllawiau cenedlaethol ar gyfer rheoli dietau arbennig mewn ysgolion yn gyfyngedig, a’r ffaith nad yw rhai ysgolion yn gallu darparu bwyd heb glwten (GF). Mynegodd GJ bryder nad oes data ar gael ar gyfer nifer y plant sydd ar ddietau arbennig yng Nghymru. Mae angen y data hyn ar Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn deall yr effaith ar arlwywyr ac ysgolion.

 

Y disgwyl yw y bydd cynnydd yn y galw am ddietau arbennig pan fydd prydau ysgol am ddim yn cael eu cyflwyno. Mae tystiolaeth anecdotaidd bod plant â chlefyd seliag yn aml yn dod â phecynnau cinio gyda nhw yn sgil materion yn ymwneud ag ymddiriedaeth. Nod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yw datblygu canllawiau cenedlaethol y cytunir arnynt ar gyfer rheoli dietau arbennig – canllawiau y gellir eu hintegreiddio â'r ddeddfwriaeth gyfredol. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am i ysgolion fod yn rhan o'r broses hon, a hynny ar sail trefniadau cydweithio hirdymor rhwng sefydliadau cenedlaethol a sefydliadau lleol. Mae am sicrhau bod y ddarpariaeth yn deg ledled Cymru, ac mae wrthi’n edrych ar oblygiadau ariannol y broses o ddarparu ar gyfer dietau arbennig.

 

Awgrymodd RaI y dylai’r Grŵp Trawsbleidiol ysgrifennu at y Gweinidog addysg er mwyn mynegi ei deimlad o gyffro ynghylch y cam o gyflwyno prydau ysgol cyffredinol, ac ynghylch y rhan bwysig a chwaraeir gan ddietegwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o ran sicrhau bod anghenion dietegol arbennig yn cael eu diwallu, ac er mwyn gofyn pa waith sy’n cael ei wneud i ganfod data ar ddietau arbennig cyn cyflwyno’r polisi hwn.

 

 

        Rhagnodi bwyd heb glwten –

 

Rhannodd TH y wybodaeth ddiweddaraf am y polisi presennol ar gyfer rhagnodi bwyd heb glwten ledled y DU.

 

o Mae gan Ogledd Iwerddon  fodel rhagnodi traddodiadol y gellir cael mynediad ato drwy’r meddyg teulu. Mae'r gwasanaeth iechyd yn cael ei ailstrwythuro'n barhaus, ond ni chredir y bydd y broses hon yn effeithio ar gomisiynu yn y tymor byr.

 

o Mae gan yr Alban  wasanaeth bwyd heb glwten dan arweiniad fferyllfeydd, lle mae presgripsiynau ac adolygiadau blynyddol yn cael eu rheoli gan y fferyllfa.

 

o Mae gan Loegr  loteri cod post. O ran y 106 o Grwpiau Comisiynu Clinigol sy’n bodoli, mae hanner ohonynt wedi  tynnu presgripsiynau yn ôl mewn rhyw ffordd. Yn dilyn adolygiad a gynhaliwyd ledled Lloegr yn 2017, gwaharddwyd pob cynnyrch heblaw bara a chymysgeddau blawd gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yn bwysig, fodd bynnag, cafodd y Grwpiau Comisiynu Clinigol ryddid i bennu polisïau lleol mwy cyfyngol mewn achosion lle’r oeddent yn teimlo y byddent yn adlewyrchu anghenion eu poblogaethau. Yn y bôn, gosododd hyn nenfwd o ran bara a chymysgeddau blawd, ond dim llawr. Ym mis Gorffennaf 2022, bydd y 106 o grwpiau yn cael eu diddymu a’u disodli gan 42 o Systemau Gofal Integredig. Mae pryder y gallai hyn sbarduno ton arall o gyfyngiadau polisi. Mynegodd TH rwystredigaeth bod llawer o ymgynghoriadau wedi cael eu trin fel ymarferion ticio blychau, gyda’r penderfyniadau terfynol yn aml yn gwrthdaro â'r dystiolaeth a gyflwynwyd a barn y mwyafrif o ymatebwyr. Mae Coeliac UK yn ysgrifennu at yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y mater hwn.

 

o Yn anffodus, nid oedd AJ yn gallu bod yn bresennol yn sgil salwch. Felly, cynigiodd TH ddarparu  diweddariad rhannol ar gynllun Hywel Dda. Y bwriad oedd cwblhau’r cynllun cerdyn atodol a’i gyflwyno ar draws Bwrdd Iechyd Hywel Dda erbyn diwedd mis Ebrill 2022. Eglurodd TH fod Llywodraeth Cymru yn gefnogol o’r prosiect ac am ei gyflwyno ledled Cymru. Pwysleisiodd TH fod Llywodraeth Cymru yn cynllunio dull model cymysg. Bydd y cerdyn atodol yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â’r model rhagnodi traddodiadol.

 


 

Adroddiad Blynyddol 2021-22 – Y Grŵp Trawsbleidiol ar Glefyd Seliag a Dermatitis Herpetiformis

[31.01.23]


5

 

 

 

        Diweddariad ar Wythnos Ymwybyddiaeth a’r Ymgyrch Diagnosis Plant –

 

o    Yr ymgyrch diagnosis plant (o fis Ebrill ymlaen)

 

Cafwyd lansiad cyfyngedig o ymgyrch diagnosis plant Coeliac UK, gan gynnwys fideos, astudiaethau achos ac animeiddiadau sydd i'w gweld ar wefan y sefydliad. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gynnal drwy gydol y flwyddyn.

 

o    Gweithgarwch Wythnos Ymwybyddiaeth (9-15 Mai)

 

Diolchodd TH i RaI am gyflwyno Datganiad Barn yn y Senedd ynghylch Wythnos Ymwybyddiaeth, a hynny fel modd o gadw clefyd seliag ar yr agenda a denu sylw Gweinidogion. Eglurodd TH fod diagnosis yn broblem barhaus, a bod Wythnos Ymwybyddiaeth yn gyfle i dynnu sylw at hynny. Cafwyd diweddariad gan TH ynghylch ymdrechion codi arian Coeliac UK sy’n gysylltiedig â’r gymhareb 1 mewn 100 (sef nifer y bobl sydd â chlefyd seliag ledled y DU). Mae rhai o’r ymdrechion hyn wedi bod yn drawiadol, a bydd yr astudiaethau achos hyn yn cael eu rhannu drwy gydol y flwyddyn.

 

 

Cyfarfod 4

 

Dyddiad y cyfarfod: 20Medi 2022

Yn bresennol: Rhun ap Iorwerth - Cadeirydd (RaI), Tristan Humphreys - Ysgrifennydd/Coeliac UK (TH), Gwawr James (GJ), Fiona Newsome (FN), Dr Ieuan Davies (ID), Dr Richard Cousins (RC)

 

        Deietau arbennig mewn ysgolion:Mae RaI wedi ysgrifennu at Jeremy Miles AS/MS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, ynghylch prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion  cynradd (UPFSM) a dietau arbennig. Bydd y grŵp yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ymateb yn y cyfarfod nesaf.

 

        Bwyd ysbyty: Rhoddodd TH esboniad o’r achos a gododd yn Ysbyty Maelor Wrecsam, lle bu farw gwraig â chlefyd seliag a chyflyrau iechyd cymhleth eraill yn anffodus ar ôl cael bwyd â glwten yn yr ysbyty. Yn y cwest, dywedodd geriatregydd ymgynghorol wrth y crwner nad yw clefyd seliag yn peri i’r claf gyfogi, ond mae hynny’n anghywir. Ysgrifennodd Coeliac UK at y crwner i egluro hyn ac i gynnig cymorth. Soniodd TH fod llawer o bobl wedi cysylltu â’r crwner i fynegi pryder ac, yn sgil hynny, mae arbenigwr annibynnol bellach wedi'i gyfarwyddo i adolygu'r dystiolaeth. Mae’r cwest wedi’i ohirio a bydd yn ailddechrau yn ddiweddarach ar ddyddiad i’w gadarnhau. Rhoddodd TH y newyddion diweddaraf i'r grŵp am waith ehangach Coeliac UK ynghylch bwyd ysbyty. Roedd yn galw am adolygiad o ganllawiau’r ysbytai a mwy o hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Roedd hefyd yn paratoi templed o lythyr i gleifion ei roi i’r ysbyty cyn iddynt gael eu trin yno. Mae Coeliac UK hefyd yn drafftio templed o lythyr i ganiatáu i gefnogwyr ysgrifennu at eu byrddau iechyd lleol neu eu hymddiriedolaeth, er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd darparu bwyd heb glwten i gleifion â chlefyd seliag. Mae Coeliac UK yn cynnal trafodaethau ag elusennau a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ynghylch yr her o ddarparu diet arbennig ac ystyried alergeddau bwyd mewn ysbytai, gan ganolbwyntio’n benodol ar y posibilrwydd o ehangu'r system bresennol sy’n caniatáu i gleifion wisgo band lliw am eu harddwrn i ddangos bod ganddynt alergedd at gyffuriau penodol.


 

Adroddiad Blynyddol 2021-22 – Y Grŵp Trawsbleidiol ar Glefyd Seliag a Dermatitis Herpetiformis

[31.01.23]


6

 

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch a ddylai’r Cadeirydd ysgrifennu llythyr at y Gweinidog Iechyd ar y mater. Fodd bynnag, roedd y Grŵp yn teimlo y byddai’n well peidio â gwneud hynny tan y bydd y cwest yn dod i ben.

 

        Rhagnodi a chostau: Rhannodd TH y wybodaeth ddiweddaraf am y polisi presennol ar gyfer rhagnodi bwyd heb glwten ledled DU.  Mae Coeliac UK yn bwriadu ysgrifennu at yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch y cyfyngiadau cynyddol a’r anghysondeb sy’n perthyn i’r drefn ragnodi yn Lloegr mewn perthynas â bwyd heb glwten. Yn anffodus, nid oedd AJ yn gallu bod yn bresennol yn sgil salwch. Felly, rhannodd TH y wybodaeth ddiweddaraf am rai o’r prif ystadegau’n ymwneud â chynllun cerdyn atodol Hywel Dda. Mae 63 y cant yn manteisio ar y cynllun, ac mae 92 y cant o'r rhain yn dweud bod ganddynt farn gadarnhaol am y cerdyn. Rhannodd FN y wybodaeth ddiweddaraf am brosiect costau Coeliac UK a'r casgliadau cychwynnol. Cafwyd trafodaeth am y modd y byddai Coeliac UK yn defnyddio’r wybodaeth hon, a sut y byddai’n helpu’r gymuned. Soniodd TH y byddai'n adnodd defnyddiol o ran datblygu ymyriadau polisi a chodi ymwybyddiaeth ynghylch yr heriau y mae’r gymuned yn eu hwynebu.

 

        Y Grŵp Hollbleidiol Seneddol yn San Steffan:Soniodd TH am y datblygiadau o ran cyfarfod y Grŵp Hollbleidiol Seneddol yn San Steffan a gafodd ei ohirio oherwydd y cyfnod o alaru cenedlaethol. Mae’r cyfarfod yn debygol o gael ei gynnal fis nesaf (diweddariad: 18 Hydref 2022).  Soniodd TH fod llawer o ddiddordeb wedi’i fynegi.

 

 

 

2.   Lobïwyr proffesiynol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennau y mae’r Grŵp wedi cyfarfod â hwy yn ystod y flwyddyn flaenorol.

 

 

 

 

Coeliac UK.

 

3rd Floor,

Apollo House,

 

Desborough Road,

 

High Wycombe.

 

Buckinghamshire.

 

HP11 2QW


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Adroddiad Blynyddol 2021-22 – Y Grŵp Trawsbleidiol ar Glefyd Seliag a Dermatitis Herpetiformis

[31.01.23]


7

 

 

Datganiad Ariannol Blynyddol

 

Ionawr 2023

 

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Glefyd Seliag a Dermatitis Herpetiformis.

 

Cadeirydd: Rhun ap Iorwerth AS/MS

 

Ysgrifennydd: Tristan Humphreys – Coeliac UK

 

Treuliau’r Grŵp

Dim

£0.00

Costau’r holl nwyddau

Ni phrynwyd nwyddau

 

£0.00

Buddion a gafodd y

 

Ni chafwyd unrhyw fuddiannau

 

£0.00

grŵp neu aelodau

 

 

unigol gan gyrff

 

 

allanol.

 

 

 

Unrhyw gymorth ysgrifenyddol neu gymorth arall.

Cymorth ysgrifenyddol wedi’i ddarparu gan

Amherthnasol

 

Coeliac UK. Gwasanaeth fideo-gynadledda wedi’i ddarparu drwy gyfrif Zoom Coeliac UK.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwasanaethau a ddarparwyd i’r Grŵp, megis lletygarwch.

 

Dim gwasanaethau arlwyo na lletygarwch

 

 

 

 

Dyddiad

 

Disgrifiad ac enw’r

 

Cost

 

 

 

 

darparwr

 

 

 

 

Pob cyfarfod wedi’i gynnal drwy Zoom.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm y gost

0.00

 

 


 

 

 

 

Adroddiad Blynyddol 2021-22 – Y Grŵp Trawsbleidiol ar Glefyd Seliag a Dermatitis Herpetiformis

[31.01.23]